Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 22 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 12.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Professor Max Munday, Prifysgol Caerdydd Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Richard Bettley (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Don Peebles (Cynghorwr Arbenigol) Ian Summers |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2 Ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 3
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd, ynghylch rhan II o'r ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb.
3 Ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 4
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Usher, Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog, Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch rhan II o'r ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb.
3.2 Cytunodd Mike Usher i gadarnhau pwy ar hyn o bryd sy’n gyfrifol am gasglu treth tirlenwi a sut y mae amcangyfrifon cywir o refeniw ar gyfer Ardrethu Annomestig wedi cael eu cymharu â refeniw gwirioneddol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Y Bil Cynllunio (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil
6.1 Ystyriodd yr Aelodau'r papur briffio am y Bil Cynllunio (Cymru) a chytunwyd y byddent yn gwahodd Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, i drafod goblygiadau ariannol y Bil.
7 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y materion allweddol
7.1 Trafododd yr Aelodau'r prif faterion.